Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
CELG(4)-06-11 : Papur 1
Papur tystiolaeth - Llywodraeth Leol a Chymunedau, Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2012-13.
1. Cyflwyniad
Mae'r papur hwn yn rhoi sylwadau a gwybodaeth i'r Pwyllgor am gynigion cyllideb rhaglen Llywodraeth Leol a Chymunedau yn y dyfodol a amlinellwyd o fewn y Gyllideb Ddrafft a gyflwynwyd ar 4 Hydref 2011. Mae'n cwmpasu'r meysydd hynny sy'n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, sef cymunedau a llywodraeth leol.
2. Cefndir
O gymharu â'r cynlluniau dangosol ar gyfer 2012-13 a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Derfynol 2011-12 (fel y'i hailddatganwyd yn seiliedig ar y strwythur newydd yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2011-12), mae cyfanswm dyraniad y Prif Grŵp Gwariant ar gyfer Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi gostwng £50.5m yn 2012-13 a £45.5m yn 2013-14. Y cynllun dangosol ar gyfer 2014-15, a gaiff ei gyhoeddi am y tro cyntaf, yw £5.154bn (£23.1m yn uwch na 2013-14). Mae'r newidiadau hyn yn deillio'n bennaf o ostyngiad yng nghyllideb nad yw'n arian parod Trafnidiaeth (sy'n darparu ar gyfer dibrisiant a diffygion mewn perthynas â'r rhwydwaith cefnffyrdd ac yn lleihau £61.5m o 2012-13 ymlaen).
Mae'r tabl ariannol cryno canlynol yn dangos yr effaith gyffredinol ar gyllideb sylfaenol Terfyn Gwariant Adrannol (TGA) Llywodraeth Leol a Chymunedau. Nid yw hyn yn cynnwys Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) sydd y tu allan i Derfyn Gwariant Adrannol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r tabl hefyd yn dangos y newid £000 a'r newid canrannol yn y gyllideb o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a'r newid £000 o gymharu â'r gyllideb flaenorol (mewn italig).
Tablau Ariannol Cryno:
Prif Grŵp Gwariant Llywodraeth Leol a Chymunedau
£000
|
2011-12 |
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw |
4,834,155 |
4,842,872 |
4,897,837 |
4,920,978 |
Newid £000 o gymharu â'r Flwyddyn Flaenorol |
|
8,717 |
54,965 |
23,141 |
Newid £000 o gymharu â'r Cynllun Blaenorol |
|
-50,502 |
-45,502 |
-22,361 |
Newid Canrannol |
|
0.2% |
1.1% |
0.5% |
Terfyn Gwariant Adrannol Cyfalaf |
281,172 |
261,641 |
233,291 |
233,291 |
Newid £000 o gymharu â'r Flwyddyn Flaenorol |
|
-19,531 |
-28,350 |
0 |
Newid £000 o gymharu â'r Cynllun Blaenorol |
|
0 |
0 |
0 |
Newid Canrannol |
|
-6.9% |
-10.8% |
0.0% |
Llinell Sylfaen y Terfyn Gwariant Adrannol |
5,115,327 |
5,104,513 |
5,131,128 |
5,154,269 |
Newid £000 o gymharu â'r Flwyddyn Flaenorol |
|
-10,814 |
26,615 |
23,141 |
Newid £000 o gymharu â'r Cynllun Blaenorol |
|
-50,502 |
-45,502 |
-22,361 |
Newid Canrannol |
|
-0.2% |
0.5% |
0.4% |
Yn dilyn newidiadau portffolio ym mis Mai 2011, mae Prif Grŵp Gwariant Llywodraeth Leol a Chymunedau hefyd yn cynnwys cyllidebau Trafnidiaeth. Rhoddir tystiolaeth ar wahân i Bwyllgor yr Economi a Busnes yn hynny o beth. Gan mai dyma yw mwyafrif cyllideb cyfalaf Llywodraeth Leol a Chymunedau a chyfran helaeth o'r gyllideb refeniw, darparwyd tabl ar wahân sy'n crynhoi cyllidebau Llywodraeth Leol a Chymunedau heb gynnwys Trafnidiaeth.
Prif Grŵp Gwariant Llywodraeth Leol a Chymunedau (heb gynnwys Trafnidiaeth)
|
2011-12 |
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw |
4,397,892 |
4,410,143 |
4,463,007 |
4,485,407 |
Newid £000 o gymharu â'r Flwyddyn Flaenorol |
|
12,251 |
52,864 |
32,400 |
Newid £000 o gymharu â'r Cynllun Blaenorol |
|
10,917 |
15,917 |
38,317 |
Newid Canrannol |
|
0.3% |
1.2% |
0.7% |
Terfyn Gwariant Adrannol Cyfalaf |
46,775 |
43,618 |
38,942 |
38,942 |
Newid £000 o gymharu â'r Flwyddyn Flaenorol |
|
-3,157 |
-4,676 |
0 |
Newid £000 o gymharu â'r Cynllun Blaenorol |
|
0 |
0 |
0 |
Newid Canrannol |
|
-6.7% |
-10.7% |
0 |
Llinell Sylfaen y Terfyn Gwariant Adrannol |
4,444,667 |
4,453,761 |
4,501,949 |
4,524,349 |
Newid £000 o gymharu â'r Flwyddyn Flaenorol |
|
9,094 |
48,188 |
32,400 |
Newid £000 o gymharu â'r Cynllun Blaenorol |
|
10,917 |
15,917 |
38,317 |
Newid Canrannol |
|
0.2% |
1.1% |
0.8% |
3. Trosolwg o'r Gyllideb
Mae Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cyfrannu at nifer o nodau yn y Rhaglen Lywodraethu, yn arbennig drwy ein ffocws trawsbynciol ar atgyfnerthu'r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ar fynd i'r afael â thlodi a hyrwyddo diogelwch, ac ar wella'r seilwaith trafnidiaeth sy'n galluogi mynediad i gyflogaeth ac yn ategu ansawdd bywyd pobl yng Nghymru.
Mae ein rhaglenni adrannol yn cefnogi diwygiadau i sicrhau gwasanaethau cyhoeddus effeithiol, effeithlon a hygyrch sy'n diwallu anghenion pobl. Rydym yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau (gan gynnwys ofn troseddau), camddefnyddio sylweddau ac yn gweithio i leihau nifer yr achosion o danau ac argyfyngau eraill a'u heffaith. Byddwn yn ceisio gwella bywydau pobl drwy weithio i leihau tlodi, lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl yn dod yn dlotach, a helpu pobl a chymunedau allan o dlodi parhaus.
Mae'r arian adnoddau ychwanegol yn gysylltiedig â'r rhaglenni gwariant canlynol:
· Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) – Dyrannwyd £5m ychwanegol i ni yn 2013-14 a 2014-15 i helpu i ddarparu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol.
· Tocynnau Teithio Rhatach– Dyrannwyd £0.7m ychwanegol i ni yn 2014-15 er mwyn i bensiynwyr a phobl anabl a'u gofalwyr allu teithio ar y bws am ddim.
· Cyflawnir yr addewid i ddarparu mwy o arian i ysgolion drwy £22.4m ychwanegol i'r Grant Cynnal Refeniw yn 2014-15. Mae hyn yn ychwanegu at yr arian ychwanegol a gynhwyswyd yn y setliad yng nghyllideb y llynedd i ysgolion. Bydd hyn yn golygu cyfanswm o £80m ychwanegol y flwyddyn i ysgolion erbyn 2014-15, o gymharu â'r setliad llywodraeth leol cyfredol.
Ar wahân i'r rhain, mae'r cyllidebau naill ai'n unol â'r cynlluniau a gyhoeddwyd yn flaenorol, neu'n cynyddu o ganlyniad i addewidion “pump am ddyfodol tecach” a newidiadau eraill.
Trosglwyddwyd cyfanswm o £11.1m i'r Grant Cynnal Refeniw o 2012-13 mewn perthynas â Grant y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn a'r Pecyn Camau Cyntaf. O ganlyniad, bydd y llinellau sylfaen ar gyfer 2012-13 ymlaen yn unol â setliad llywodraeth leol terfynol 2011-12. Ceir manylion pellach pan gaiff yr Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol Dros Dro a'r sail dosbarthu eu cyhoeddi ar 18 Hydref 2011. Bydd hyn yn pennu swm y Grant Cynnal Refeniw y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei ddosbarthu i'r cynghorau sir a'r cynghorau bwrdeistref sirol yn 2012-13 a thu hwnt ynghyd â'r sail dosbarthu.
O ran diwygio cyllidebau refeniw, nid oes unrhyw newidiadau perthnasol i feysydd Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth Leol a Chymunedau. Ceir cyfyngiadau o hyd ar y cyllidebau cyfalaf ar gyfer y Prif Grŵp Gwariant, gyda'r gostyngiadau o lefelau 2011-12 yn unol â'r cynlluniau a gyhoeddwyd yn flaenorol.
Gwnaed rhai newidiadau strwythurol i Brif Grŵp Gwariant Llywodraeth Leol a Chymunedau fel rhan o'r gyllideb hon er mwyn hwyluso'r broses o'i gysoni â'r cynllun busnes adrannol, a'r broses o uno cyllidebau sy'n canolbwyntio ar lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus.
4. Pump am Ddyfodol Tecach
Rydym yn benderfynol o sicrhau bod ein cymunedau yn gryfach ac yn fwy diogel. Rydym wedi ymrwymo i ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol. Bydd hyn yn gynnydd mawr o ran niferoedd a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau. Nid yw Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn disodli swyddogion yr heddlu â gwarant, ond yn hytrach maent yn ategu ac yn cefnogi adnoddau presennol yr heddlu. Bydd y swyddogion newydd hyn yn adeiladu ar y cysylltiadau rhwng yr heddlu a chymunedau, gan ddarparu gwelededd a sicrwydd ac ymgysylltu â phobl leol. Byddant yn gallu mynd i'r afael â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n bla ar rai o'n cymunedau o hyd. A byddant yn datblygu'r cydberthnasau sy'n bodoli eisoes rhwng plismona a phrif flaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru, megis Cymunedau yn Gyntaf.
5. Y Rhaglen Lywodraethu
Bydd y Llywodraeth yn parhau i gefnogi ein hardaloedd mwyaf difreintiedig drwy gam nesaf y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Fel yr amlygwyd yn y Ddogfen Ymgynghori "Cymunedau yn Gyntaf - y Dyfodol" (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2011), o fis Ebrill 2012 bydd Cymunedau yn Gyntaf yn canolbwyntio ar gefnogi agenda Gwrth-Dlodi y Llywodraeth. Bydd yn helpu'r bobl o dan yr anfantais fwyaf yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig gyda'r nod o liniaru tlodi parhaus. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â rhaglenni eraill i gulhau'r bylchau addysg, sgiliau, economaidd ac iechyd rhwng ardaloedd mwyaf difreintiedig ac ardaloedd mwyaf llewyrchus Cymru, ac i helpu unigolion i ddod o hyd i waith.
Bydd y Llywodraeth yn cefnogi camau gweithredu i wella'r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy atgyfnerthu democratiaeth leol a pharhau i sicrhau setliadau ariannol i lywodraeth leol sy'n adlewyrchu anghenion lleol. Bydd cyhoeddi setliadau ariannol dangosol ar gyfer 2013-14 a 2014-15 yn galluogi awdurdodau i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd cymhellion ariannol i wella gwasanaethau, a rhoddir cymorth ymarferol i awdurdodau nad ydynt yn cyrraedd y safonau disgwyliedig. Caiff trefniadau cynllunio a phartneriaeth eu symleiddio.
Mae'r Llywodraeth wedi cytuno ar ôl troed cyffredin ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan adeiladu ar ffiniau Byrddau Iechyd Lleol a'r heddlu. Bydd y broses o safoni trefniadau cydweithredu yn seiliedig ar ffiniau cyffredin yn galluogi ac yn ategu trefniadau cydweithio ar draws gwasanaethau llywodraeth leol, iechyd a'r heddlu gan leihau cymhlethdod a darparu fframwaith clir ar gyfer cydweithredu. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y camau i roi adolygiad Simpson ar waith a'r diwygiadau pwysig eraill sy'n mynd rhagddynt ym maes addysg a gwasanaethau cymdeithasol.
Bydd Grŵp Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus newydd yn llywio'r diwygiadau a bydd Cyngor Partneriaeth ar ei newydd wedd yn darparu llywodraethedd gadarn o ran cydweithredu er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd a'r effeithiolrwydd gorau posibl yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
6. Asesiadau Effaith
Wrth bennu'r dyraniadau cyllidebol, rhoddwyd ystyriaeth ofalus i effaith y newidiadau ar gydraddoldeb. Fel rhan o broses y gyllideb y llynedd, gwnaethom gryn dipyn o waith i asesu effaith y cynlluniau a gyhoeddwyd gennym ar gydraddoldeb. Nid yw tybiaethau sylfaenol dyraniadau eleni wedi newid o gymharu â chynlluniau y llynedd. Er enghraifft, mae'r diogelwch a roddir eisoes i gyllidebau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol yn ystyried hyn yn ogystal ag adlewyrchu'n fwy cyffredinol yr angen i gynnal gwasanaethau i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae cynnydd mewn dyraniadau ar gyfer blaenoriaethau fel teithiau bws am ddim i bensiynwyr a phobl anabl a'u gofalwyr yn 2014-15 hefyd yn pwysleisio ein hymrwymiad i'r agenda cydraddoldebau. Er bod cyllid yn cael ei ailbroffilio o fewn y cyllidebau trafnidiaeth a bod newidiadau strwythurol i gyllidebau llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus, nid oes unrhyw effeithiau posibl o ran cydraddoldebau. Yn olaf, cynhelir Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ar y cam nesaf o'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ar yr adeg briodol.
Carl Sargeant AC